Prif Gynnwys
Hylo!
Mae Menter Cynnal Cyflogaeth Cymru (WISE yn Saesneg) yn helpu pobl sydd eisiau gweithio.
Mae ymgynghorydd gwaith yn eich helpu chi dewis y swydd hoffech chi gael, ac yn eich cynnal chi pan ‘dych chi’n mynd am gyfweliad.
Mae ein hyfforddwyr yn eich helpu chi dysgu sut i wneud y gwaith, a sut i deithio nôl ac ymlaen i’r gweithle.
Gallwch chi ddewis gwaith llawn amser neu rhan amser, ac mae WISE yn gallu helpu gyda threfnu cyflog a budd-daliadau.
Mae gan WISE prosiectau eraill 'dych chi'n gallu defnyddio. Mae 'na gyfle i chi wirfoddoli, neu ddysgu sgiliau newydd fel darllen ac ysgrifennu. 'Dych chi'n gallu darganfod mwy drwy glicio ar y dolenni isod.