Bywydau Abertawe - dod â phobl at ei gilydd arlein

Syth i'r cynnwys

Allweddi Cyrchu

Bywydau Abertawe - Dod â phodl at ei gilydd arlein

Prif Gynnwys

Click here to return to the home page

Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe

Sut ydw i'n derbyn gwasanaethau?
Cyfeiriad: Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe, Tŷ Cydweli, Llys Siarter, Ffordd y Ffenics, Llansamlet Abertawe, SA7 9FS
Ffôn: 01792 614100
Ebost: enquiries@swansealhb.wales.nhs.uk
GIG Cymru

Mae gan Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe gyfrifoldeb i gydweithio'n agos â sefydliadau eraill, er enghraifft, y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Ysbyty a Chonsortiwm Tai Gorllewin Morgannwg er mwyn sicrhau bod cynlluniau ar waith a fydd yn gwella iechyd pobl yn ogystal â'r gwasanaethau iechyd sydd ar gael yn Abertawe.

Mae mwy na 240,000 o bobl yn byw yn Ninas a Sir Abertawe a'r Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gydlynu gwasanaethau gofal iechyd ar gyfer y bobl hyn. Mae hyn yn cynnwys, gwneud yn siwr bod pobl yn gwybod sut i ddod o hyd i wybodaeth am feddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion yn Abertawe. Mae rhestr gyflawn o'r manylion hyn ar ein gwefan er mwyn i chi allu dod o hyd i'r gweithiwr iechyd y mae ei angen arnoch yn eich ardal.

Rydym hefyd yn cydweithio'n agos ag ysbytai lleol i sicrhau eu bod yn cynnig ystod eang o wasanaethau iechyd ar gyfer pobl Abertawe.

Doctor gyda chlaf

Lle bo'n bosibl, mae'r Bwrdd Iechyd Lleol am i chi gymryd rhan yn ein gwaith i wella gwasanaethau GIG a ddarperir i chi, y claf. Os hoffech gymryd rhan yn ein gwaith yn y dyfodol, yna ffoniwch Joanne Lane ar 01792 784800.