Bywydau Abertawe - dod â phobl at ei gilydd arlein

Syth i'r cynnwys

Allweddi Cyrchu

Bywydau Abertawe - Dod â phodl at ei gilydd arlein

Prif Gynnwys

Cliciwch i fynd nôl i'r hafan

Sut ydw i'n cael gwasanaethau

Cyfeiriad: Y Tîm Cefnogi Cymunedol, Tŷ Herbert, Charter Court, Ffordd Ffenics, Parc Anturiaeth Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA7 9FS Ffôn: 01792 614100 Ffacs: 01792 614101 Ebost: community.support.team@swansea.gov.uk

Mae pobl yn derbyn cymorth ar ôl cael asesiad gan nyrs neu weithiwr cymdeithasol o’r Tîm Cymorth Cymunedol.

Yn ystod yr asesiad byddan’ nhw’n trafod gyda chi (a’ch gofalwyr) unrhyw anhawsterau ‘dych chi’n eu cael, a pa fath o gymorth fydd o les i chi. Does dim tâl am yr asesiad.

Byddan nhw’n defnyddio rheolau o’r enw ‘meini prawf cymwyster’ i wneud yn siwr bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl gyda’r anghenion mwya’, neu i’r rheini sy mewn peryg o gael niwed.

Os ydyn nhw’n asesu bod angen cymorth a gwasanaethau arnoch chi, bydd hwn yn cael ei nodi lawr mewn cynllun gofal, a byddwch chi’n derbyn copi i’w gadw.

‘Dych chi’n gallu gofyn am asesiad drwy gysylltu â ni ar y cyfeiriad uchod.

Mae ‘na dâl am rai o’r gwasanaethau, ond fel arfer mae hyn yn cael ei seilio ar y gallu i dalu.