Prif Gynnwys
Sefydlwyd Cymdeithas Longfields ym 1952, a hi yw'r elusen leol hynaf yn Abertawe.
Sefydlwyd hi gan grwp bach o rieni oedd yn pryderi nad oedd y system addysg yn darparu ar gyfer eu plant anabl, ac mae nifer ohonyn nhw’n dal i gefnogi Longfields.
Codwyd digon o arian gan y rhieni i agor ystafell ddysgu, ac ar ôl lawer o lobïo a chodi ymwybyddiaeth, cawson nhw athro gan yr Adran Addysg. Nes ymlaen, agorwyd ysgol arbennig yn Nhreforys. Nid oedd darpariaeth ar gyfer y rheini oedd yn rhy hen i fynd i’r ysgol, ac i’r rheini galwyd yn ‘annysgiadwy’.
Ym 1955, ar ôl rhagor o godi arian a gwaith cysylltiadau cyhoeddus, prynwyd Longfields. Roedd modd i’r plant a’r bobl ifainc fynychu’r Feithrinfa a’r Ganolfan Hyfforddi.
Mae Longfields wedi datblygu i mewn i Ganolfan sy’n darparu gwasanaethau i bobl gydag ystod o anableddau.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i’n defnyddwyr gwasanaethau, a’r nôd yw i hybu annibyniaeth.
Mae rhodd gan y Gronfa Gymdeithasol wedi galluogi i Longfields adeiladu Pwll Hydrotherapi, i’w gwblhau yn 2005.