Bywydau Abertawe - dod â phobl at ei gilydd arlein

Syth i'r cynnwys

Allweddi Cyrchu

Bywydau Abertawe - Dod â phodl at ei gilydd arlein

Prif Gynnwys

Cyfeiriad: Herbert House, Charter Court, Phoenix Way, Swansea Enterprise Park, Swansea, SA7 9FS Ffôn: 01792 614100 Ebost: Pam.Dacey@swansea.gov.uk
Uned Triniaeth

Mae Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn darparu gwasanaethau iechyd arbennig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn anelu at ddarparu gwasanaeth arbennig sydd ar gael yn leol, ac sy’n gyfun.

Yn Abertawe cewch gymorth a chyngor gan seiciatrydd ymgynghorol , nyrsys cymunedol, secolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a therapyddion llafar a iaith.

Mae’r gweithwyr iechyd yn gweithio’n agos iawn gyda staff Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ar gyfer pobl sydd angen cymorth ychwanegol, ceir:

  • Uned Asesu a Thriniaeth yn Llwynneryr;
  • Tîm Ymateb Cymunedol arbennig.
Brithwaith wedi'i wneud gan gyn breswylwyr Uned Llwyneryr

Os ydych chi eisiau cyumorth gan y staff iechyd, bydd angen i chi gysylltu gyda’ch Rheolwr Gofal neu’ch meddyg. Bydd y Rheolwr Gofal neu feddyg yn sôn amdanoch chi i’r staff bydd yn eich gweld, ac yn gofyn iddyn nhw gwrdd â chi.

Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am wasanaethau iechyd yn Abertawe, cewch siarad â Pam Dacey, sef y Rheolwraig Ardal. Cysylltwch â hi yn Nhŷ Herbert, Cwrt Siarter, Ffordd y Ffenics, Parc Menter Abertawe, Abertawe, SA7 9FS. Ei rhif ffôn yw 01792 891264.